29/01/2017
Rhiannon Marks sy'n ymuno â Dei i sgwrsio am Irma Hughes de Jones, un o feirdd Y Wladfa.
Beirniadaeth lenyddol Saunders Lewis ar waith Pantycelyn ydi pwnc Densil Morgan, wrth i Angharad Tomos drafod Mary Wollstonecraft.
Sylw hefyd i Diarmuid Johnson a'i gysylltiad â beirdd Ceredigion pan oedd yn ifanc yn Iwerddon, a chawn hanes Sant Padarn gan Gerald Morgan.
Comments