12/02/2017
Amrywiaeth o sgyrsiau yn cynnwys Geraint Jones, Trefor, yn sôn am CD newydd ganddo sydd yn gasgliad o hanesion a lleisiau'r ardal.
Mae Rhiannon Ifans yn ein hatgoffa fod Dydd Gŵyl Sain Folant ar y 14eg o Chwefror, ond pwy oedd Sain Folant?
Mae Ian Parri wedi gwirioni ar drenau i'r fath raddau ei fod wedi sgwennu llyfr ar ôl teitho arnyn nhw am wythnos gyfan. Mae Dei yn cael ei gwmni yng ngorsaf reilffordd Bangor.
Hefyd, hanes Capel Y Wern yn Ystalyfera gan Gareth Hopkins.
Comments