Keep up to date with every new upload!

Join free & follow Dei Tomos
Share
  • 1 year ago
Siân James a Pharti Cut Lloi

Siân James a Pharti Cut Lloi

Wedi'i ffurfio'n arbennig er mwyn cystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol Meifod yn 2003, mae Parti Cut Lloi wedi dod yn ffefrynnau mawr ar lwyfannau eisteddfodau, gwyliau a nosweithiau llawen.

Mae'r cogie o ardal Dyffryn Banw ym Maldwyn yn parhau i ennill gwobrau, fel yng Ngŵyl Cerdd Dant Llŷn ac Eifionydd 2016.

Yn fuan wedi'r ŵyl honno ym Mhwllheli, mae Dei Tomos yn sgwrsio ag arweinydd a sylfaenydd Parti Cut Lloi. Mae Siân James yn gantores ei hun, ac yn actio rhywfaint hefyd. Yn wir, mae'r sgwrs hon yn digwydd wrth i S4C ddarlledu ail gyfres y ddrama wleidyddol Byw Celwydd.

Tri o aelodau Parti Cut Lloi o'r dechrau'n deg yw Aled Evans, Hywel Evans ac Edryn Lewis. Mae Dei yn cael eu cwmni nhw hefyd, a llawer iawn o hwyl yn eu canol.

Comments