Keep up to date with every new upload!

Join free & follow Ar y Marc
Share
Siantiau Cymru a Len Allchurch

Siantiau Cymru a Len Allchurch

Sylw i bob math o bethau'n ymwneud â phêl-droed, gan gynnwys stori bachgen 4 oed o'r Ceinewydd sydd wedi dysgu siantiau Cymru. Mae Josh Jones a'i dad Steffan yn ymuno â Dylan Jones a'r criw.

Yr Athro Geraint Jenkins sy'n cofio Len Allchurch ar ôl iddo farw'n 83 oed. Enillodd yr asgellwr 11 cap dros Gymru, a chwaraeodd yng Nghwpan y Byd 1958.

Mae Catrin Heledd yn cymryd golwg ar rai o'r gwaharddiadau rhyfedd mae rheolwyr wedi'u cyflwyno ar hyd y blynyddoedd, a sgwrs hefyd gydag Owain Williams sydd newydd gael ei benodi'n Gyfarwyddwr Hyfforddi Academi Clwb Pêl-droed Y Bala.

Owain Tudur Jones ac Ian Gill sydd ar y panel.

Comments